P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gerwyn David Evans, ar ôl casglu 11,091 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod y cynlluniau arfaethedig o adeiladu Cylch Haearn y tu allan i Gastell y Fflint gan ein bod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol Edward I a’i Gylch Haearn, a ddefnyddiwyd i ddarostwng a llethu ein pobl.
Rydym o’r farn bod hyn yn arbennig o amharchus i bobl Cymru a’n hynafiaid sydd wedi brwydro yn erbyn gorthrymder, darostyngiad ac anghyfiawnder am gannoedd o flynyddoedd.
Gofynnwn ichi ailfeddwl y penderfyniad i adeiladu’r heneb hon a defnyddio’r arian ar gyfer rhywbeth arall.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Rhondda
· Canol De Cymru